P-04-422 : Ffracio
Geiriad y ddeiseb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy i lunio Datganiad
Polisi Cynllunio Mwynau Interim Gweinidogol, yn ogystal â
nodyn cyngor technegol newydd, i gryfhau’r egwyddor ragofalus
ynglŷn â cheisiadau cynllunio ar gyfer olew a nwy ar y
tir, gan gynnwys ffracio. Rhaid dileu pob amheuaeth wyddonol
resymol bod risg o effeithiau niweidiol, a rhaid rhoi’r
ystyriaeth gryfaf i’r angen brys i liniaru’r newid yn
yr hinsawdd.
Prif ddeisebydd: Cyfeillion y Ddaear Cymru
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:
2 Hydref 2012
Nifer y llofnodion: Tua 1000